Toggle menu

Llywodraethu

Mae partneriaid yng Nghanolbarth Cymru wedi sicrhau bod y trefniadau llywodraethu a rheoli clir yn eu lle i fwrw ymlaen â datblygu'r Fargen Twf. Mae hyn yn cynnwys y cytundeb rhyng-awdurdod wedi cael ei lofnodi rhwng Cynghorau Sir Powys a Cheredigion, a Chytundeb Penawdau Telerau a lofnodwyd gan y ddau Gyngor, y DU a Llywodraeth Cymru.

Grŵp

Aelodaeth

Rôl

Bwrdd Tyfu Canolbarth Cymru (Cyd-bwyllgor)

Aelodau Cabinet yr Awdurdod Lleol; Cadeirydd y Grŵp Strategaeth Economaidd (pob un â phleidlais), a hefyd Aelodau cyfetholedig heb bleidlais.

Arweinyddiaeth, gwneud penderfyniadau strategol ac atebolrwydd ar gyfer Bargen Twf Canolbarth Cymru.

Grŵp Strategaeth Economaidd

Arweinwyr busnes enwebedig gydag arbenigedd yn berthnasol i waith Bargen Twf Canolbarth Cymru.

Darparu llais busnes ar y Fargen Dwf i Fwrdd Tyfu Canolbarth Cymru ac yn hyrwyddo'r Fargen Dwf yn gadarnhaol yng Nghymuned Fusnes Canolbarth Cymru.

Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru

Aelodaeth o draws y sectorau, dan arweiniad y sector preifat.

I weithio gydag arweinwyr busnes a rhanddeiliaid ar draws y rhanbarth i ddeall y ddarpariaeth sgiliau ac anghenion y farchnad lafur er mwyn sbarduno buddsoddiad sy'n bodloni'r gofynion ar gyfer cyflogwyr a gweithlu.

Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru

Aelodaeth traws-sector eang

Partneriaeth traws-sector, gan sicrhau mewnbwn ac ymgysylltu eang a fydd yn helpu i gynghori ar y Fargen Twf ond hefyd yn trafod materion ehangach wrth fanteisio ar gyfleoedd

Grŵp Cynghori Strategaeth Ynni Canolbarth CymruAwdurdodau Lleol, Tyfu Canolbarth Cymru, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru ac Ynni CymruYn cynghori ar gyflawni Strategaeth Ynni Canolbarth Cymru a Chynlluniau Ynni Ardaloedd Lleol yn strategol

 

Trefniadau sefydledig

Mae'r cytundeb rhyng-awdurdod yn rhoi trefniadau clir yn eu lle i'r ddau awdurdod lleol gydweithio, y cylch gorchwyl ar gyfer fforymau gwneud penderfyniadau a chynghorol allweddol a swyddogaethau'r awdurdodau.

Isod ceir dolen i'r Tyfu Canolbarth Cymru trefniadau sefydledig

Tyfu Canolbarth Cymru trefniadau sefydledig (PDF) [120KB]

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu