Toggle menu

Angen Arweinwyr Busnes i gefnogi'r gwaith o gyflawni Bargen Twf Canolbarth Cymru

08.02.2024 - Rydym yn chwilio am arweinwyr busnes ac arbenigwyr economaidd i gefnogi'r gwaith o ddatblygu a chyflawni Bargen Twf Canolbarth Cymru.

08-02-24

Mae Bargen Twf Canolbarth Cymru yn rhaglen cyllid cyfalaf sy'n buddsoddi mewn prosiectau seilwaith ar raddfa fawr i gefnogi twf economaidd y rhanbarth.

Mae Bwrdd Tyfu Canolbarth Cymru yn ehangu ei gorff annibynnol, y Grŵp Cynghori Economaidd, i helpu i gynghori o ran cryfderau neu wendidau prosiectau sy'n cael eu datblygu fel rhan o bortffolio Bargen Twf Canolbarth Cymru wrth iddo ddechrau cyfnod cyffrous o ddatblygu gyda rhaglenni a phrosiectau yn symud i'r gwaith o gyflawni.

Er mai Bwrdd Bargen Twf Canolbarth Cymru sy'n gyfrifol am y penderfyniadau terfynol sy'n ymwneud â'r rhaglenni a'r prosiectau, mae gan y Grŵp Cynghori Economaidd rôl allweddol wrth roi her strategol ac adeiladol i gryfhau cynigion a chynghori o ran cyfleoedd newydd i'r Bwrdd eu hystyried fel y bo'n briodol. Bydd y Grŵp Cynghori Economaidd yn cael ei gynrychioli'n uniongyrchol ym Mwrdd Tyfu Canolbarth Cymru fel aelod cynghori sydd heb bleidlais gan Gadeirydd y Grŵp Cynghori Economaidd.

Bydd angen i ymgeiswyr ar gyfer y grŵp cynghori:

  • Fod yn Arweinwyr Diwydiant yn enwedig o'r sectorau a nodwyd yn Achos Busnes y Portffolio
  • Gallu dangos meddwl strategol
  • Meddu ar brofiad uniongyrchol sylweddol o arweinyddiaeth busnes
  • Bod â chefndir entrepreneuraidd
  • Gallu gweithio fel rhan o dîm
  • Bod â diddordeb cryf ac ymrwymiad cryf i fuddiannau'r rhanbarth.

Gyda'i gilydd, dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Powys, y Cynghorydd James Gibson-Watt ac Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Bryan Davies, sy'n gyd-gadeiryddion Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru a Bwrdd Tyfu Canolbarth Cymru: "Mewn cyfarfod diweddar gyda'r Grŵp Cynghori Economaidd, cytunwyd bod angen ehangu ei aelodaeth. Mae hwn yn gyfle gwych i arweinwyr busnes rhanbarthol roi llais i'w sector a rhannu ymatebion strategol ac adeiladol ar gyfer Bargen Twf Canolbarth Cymru.

"Mae'r Fargen Twf yn cychwyn ar gyfnod cyffrous o ddatblygu sy'n gweld rhaglenni a phrosiectau yn symud i'r cyfnod cyflawni, ac felly mae angen i ni sicrhau bod cynrychiolwyr busnes yn ein helpu i gryfhau a herio'r Portffolio i gael yr effaith fwyaf ar Economi Canolbarth Cymru..]"

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Carwyn Jones Evans, Arweinydd Strategol ar y Cyd, Bargen Twf Canolbarth Cymru Carwyn.Jones-Evans@ceredigion.gov.uk neu Nicola Williams,  Arweinydd Strategol ar y Cyd, Bargen Twf Canolbarth Cymru nicola.williams@powys.gov.uk, 01597 826024.

www.tyfucanolbarth.cymru

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu