15.11.2021 - Mae angen arweinwyr busnes ac arbenigwyr economaidd i gynghori Bwrdd Tyfu Canolbarth Cymru ynghylch prosiectau posib o dan Fargen Twf y rhanbarth.
Mae'r Bwrdd yn sefydlu corff annibynnol, y Grŵp Cynghori Economaidd, i helpu i gynghori ar gryfderau neu wendidau prosiectau sy'n cael eu datblygu yn rhan o achos busnes portffolio Bargen Twf Canolbarth Cymru.
Bydd y grŵp cynghori newydd, a fydd yn cynnwys chwe aelod, yn disodli'r Grŵp Strategaeth Economaidd sydd wedi gweithredu ers dwy flynedd. Helpodd y Grŵp Strategaeth Economaidd i ddatblygu achos busnes portffolio'r rhanbarth, sydd bellach wedi'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gael cytundeb terfynol ar gyfer y fargen.
Y Cynghorydd Ellen ap Gwynn yw Cyd-Gadeirydd y Bwrdd. Dywedodd: "Mae'r Grŵp Strategaeth Economaidd wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddatblygu'r achos busnes ar gyfer y Fargen Dwf dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Rydym yn obeithiol y cawn gytundeb terfynol ar gyfer y fargen cyn diwedd y flwyddyn, ac y gallwn symud ymlaen gyda datblygu prosiectau."
Bydd y grŵp cynghori newydd yn darparu gwybodaeth a phrofiad o'r sector busnes i asesu'r gwahanol gynigion wrth iddynt symud i'r cam nesaf.
Y Cynghorydd Rosemarie Harris yw Cyd-Gadeirydd y Bwrdd. Ychwanegodd: "Mae'r Fargen Dwf yn dechrau ar gam datblygu cyffrous lle bydd rhaglenni a phrosiectau'n cael eu datblygu ymhellach a'u hystyried ar gyfer cyllid. Mae'n rhaid i ni sicrhau bod y cynrychiolwyr busnes yn ein helpu i asesu'r cynigion hyn."
Ychwanegodd y Cyd-Gadeiryddion: "Y Bwrdd fydd yn gyfrifol am yr holl benderfyniadau sy'n ymwneud â rhaglenni a phrosiectau yn y pen draw, ac mae'n bwysig bod rôl gynghori'r Grŵp Cynghori Economaidd yn glir o'r dechrau i aelodau'r grŵp ac unrhyw arsylwyr allanol."
Bydd angen i ymgeiswyr ar gyfer y grŵp cynghori:
• Fod yn Arweinwyr Diwydiant yn enwedig yn y sectorau a nodwyd yn Achos Busnes y Portffolio
• Allu dangos ffordd strategol o feddwl
• Feddu ar brofiad uniongyrchol sylweddol o arwain busnes
• Feddu ar gefndir entrepreneuraidd
• Fod â dull cydweithredol a'r gallu i weithio yn rhan o dîm
• Fod â diddordeb ac ymrwymiad i fuddiannau'r rhanbarth.
I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch Paul Griffiths, Ymgynghorydd Bargen Twf: paul.griffiths2@powys.gov.uk.