Toggle menu

Cryfderau Sectoraidd

Cryfderau sectoraidd yng Nghanolbarth Cymru

Gweithgynhyrchu Uchel ei Werth - mae dros 8,600 o bobl yn cael eu cyflogi yn y sector cynhyrchu yng Nghanolbarth Cymru.  Mae gan y rhanbarth ardaloedd arbenigol o arbenigedd gweithgynhyrchu megis awtomatiaeth, peirianneg symudiad a gwyddorau bywyd.


Amaethyddiaeth, Bwyd a Diod - yn hollbwysig i'r economi ranbarthol, gan gyflogi dros 13,900 o bobl ac yn allweddol i ddiwylliant a chymunedau'r rhanbarth. Mae'r sector yn wynebu heriau posibl ac ansicrwydd wrth ymateb i BREXIT. Ceir cyfleoedd i arallgyfeirio ac ychwanegu gwerth at y sectorau amaethyddol a bwyd, prosesu cynnyrch amaethyddol, a manteisio ar ymchwil a datblygu a chryfderau'r diwydiant bwyd, ac ystyried pridd, tir a thywydd, megis da byw, yn arbennig cig oen Cymru.


Amddiffyn a Diogelwch - mae Canolbarth Cymru yn lleoliad pwysig ar gyfer gweithrediadau amddiffyn y DU, gan fanteisio ar ddaearyddiaeth y rhanbarth a safleoedd diogel. Mae'n gartref i weithgarwch arloesol, gyda gofod awyr ar wahân ar gyfer Systemau Cerbydau Awyr a Reolir o Bell oddi ar arfordir Gorllewin Cymru, a pharth neilltuedig mewndirol o bron 500 milltir sgwâr tuag at Epynt.  Mae gan yr ardal gryfderau ymchwil hefyd sy'n darparu cyfleoedd i sicrhau lle Canolbarth Cymru fel canolfan y diwydiant amddiffyn a diogelwch (e.e. Aber-porth, Aberhonddu, Derin Lines a Phontsenni).


Twristiaeth - mae'r sector twristiaeth yn cyflogi dros 23,200 o bobl yng Nghanolbarth Cymru ac mae wedi tyfu'n sylweddol dros y ddeng mlynedd diwethaf.  Mae asedau naturiol, diwylliannol a threftadaeth y rhanbarth yn golygu bod llawer o gyfleoedd i ychwanegu gwerth at sector twristiaeth y rhanbarth ac yna cynyddu'r cyfraniad at economi Cymru, gan roi sylw i ledaenu natur dymhorol a gwariant. Mae hyn yn cynnwys y cysylltiadau diwylliannol cryf a ddatblygwyd fel rhan o brosiectau Iwerddon a Chymru, a'n hasedau naturiol ein hunain: Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ein Llwybr yr Arfordir ac Ardaloedd o Harddwch Eithriadol.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu