Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) yn un o bileri canolog agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU ac yn darparu £2.6 biliwn, ledled y DU, o fuddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025.
Prif nod yr UKSPF yw meithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU. Mae hyn yn cyd-fynd â chenadaethau Papur Gwyn Ffyniant Bro, yn enwedig: 'Erbyn 2030, bydd balchder yn ei le, megis boddhad pobl gyda chanol eu tref ac ymgysylltu â diwylliant a chymuned leol, wedi codi ym mhob ardal o'r DU, gyda'r bwlch rhwng y rhai sy'n perfformio orau ac ardaloedd eraill yn cau.'
Drwy awdurdodau lleol y mae'r gwaith o gyflawni'r UKSPF ar draws Prydain, ond yng Nghymru cytunwyd y bydd cynghorau yn cydweithio ar sail ranbarthol. O ran rhanbarth Canolbarth Cymru, yr awdurdod arweiniol yw Cyngor Ceredigion ond bydd Cynghorau Powys a Cheredigion yn rheoli'r gwaith o gyflawni prosiectau yn lleol yn eu hardaloedd.
Mae Tyfu Canolbarth Cymru yn gweithio'n agos gyda'r timau cyflawni lleol yng Nghyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Powys i sicrhau bod gennym gymysgedd eang o brosiectau a fydd yn ein helpu i wneud yn fawr o'r cyfleoedd a mynd i'r afael â'r heriau yn y rhanbarth. I ddarganfod mwy am y prosiectau sydd wedi derbyn cyllid yn y rhanbarth, darllenwch rifynnau blaenorol o'n cylchlythyr.
Stori'r Gronfa Ffyniant Cyffredin yn y rhanbarth hyd yma
Ers i Gynllun Buddsoddi Rhanbarthol Canolbarth Cymru gael ei gymeradwyo gan Lywodraeth y DU ym mis Rhagfyr 2022, mae cyfanswm o 162* o brosiectau yn y rhanbarth wedi cael cyllid. Mae'r prosiectau hyn yn werth swm anhygoel o £37 miliwn.
*Mae mwy o brosiectau wedi cael eu cymeradwyo dan y cynlluniau grant cyffredinol megis Cynnal y Cardi yng Ngheredigion a Gwneud Gwahaniaeth ym Mhowys.
Mae rhaglen y Gronfa Ffyniant Gyffredin wedi'i rhannu yn 4 maes blaenoriaeth (data o mis Mawrth 2024):
Mae ystod ac amrywiaeth y prosiectau hyn yn ategu uchelgais Tyfu Canolbarth Cymru i fanteisio'n llawn ar y cyfleoedd sydd ar gael i greu a chynnal twf economaidd a chymdeithasol.
O grantiau bach sy'n helpu i wneud gwahaniaeth mawr i fusnesau a chymunedau lleol, i brosiectau sy'n trawsnewid lleoedd a mannau penodol, a hyfforddiant ynghylch meysydd megis sgiliau gwyrdd, sgiliau digidol a chynorthwyo ein pobl ifanc, mae ehangder y buddsoddi'n drawiadol.
Gweithredu'n dryloyw ac yn deg
I sicrhau bod y cyllid hwn yn cael ei ddyrannu mewn modd tryloyw a theg, rydym wedi cynnal nifer o alwadau agored am gynigion ar gyfer prosiectau a fyddai'n cael eu cynnal rhwng mis Ebrill 2023 a mis Rhagfyr 2024.
Mae partneriaethau lleol yng Ngheredigion a Phowys wedi bod yn gyfrifol am ystyried a chymeradwyo ceisiadau am brosiectau. Mae'r partneriaethau'n cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r sector gwirfoddol.
Mae gan y ddau awdurdod lleol ddyraniadau ariannol gwahanol sy'n golygu y gallai cynnwys y galwadau am geisiadau fod yn wahanol ym mhob ardal.
Ewch i wefannau'r awdurdod lleol am wybodaeth fanwl:
Ceredigion: https://www.ceredigion.gov.uk/UKSPFCanolbarthCymru
Powys: https://cy.powys.gov.uk/article/14047/Cronfa-Ffyniant-Gyffredin-y-DU-Yn-Agored-Ar-Gyfer-Ceisiadau
Am fwy o wybodaeth e-bostiwch:
- Ceredigion - ukspf@ceredigion.gov.uk
- Powys - ukspf@powys.gov.uk
Lluosi
Mae'r rhaglen, sy'n rhan o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn ceisio denu prosiectau sydd a'r bwriad o wella sgiliau rhifedd gweithredol trwy diwtor personol am ddim, hyfforddiant digidol a chyrsiau hyblyg.
Gweminar Canolbarth Cymru Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Lluosi Hydref 2ail 2023 - Sleidiau Sesiwn Gwybodaeth:
Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Lluosi Sesiwn Gwybodaeth (PDF) [1MB]
Gweminar Canolbarth Cymru Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Lluosi Hydref 2ail 2023 - Recordiad o'r Sesiwn Gwybodaeth:
Dolenni a Dogfennau Defnyddiol