25.01.2023 - Yn dilyn clustnodi mewn darn cychwynnol o waith yr angen i ddatblygu safleoedd gwaith ychwanegol ar draws y rhanbarth, cwblhawyd gwaith pellach er mwyn cwmpasu Rhaglen Eiddo a Safleoedd arfaethedig i'r Fargen Dwf.
Mae Tyfu Canolbarth Cymru bellach yn edrych ar ddatblygu achos busnes ar gyfer y buddsoddiad yma, gweithredu prosiectau datblygu cynaliadwy fydd o gymorth wrth glustnodi'r galw yn y farchnad leol am eiddo ar gyfer cyflogaeth.
Mae Bwrdd Rhaglen eisoes wedi ei sefydlu i oruchwylio'r datblygiad a gweithredu ar y Rhaglen ac y mae adnoddau penodol y Fargen Dwf mewn lle i sbarduno hyn. Yn ystod y misoedd nesaf bydd ymgynghorwyr gwerthu eiddo, Savills, yn gweithio gyda'r tîm i ystyried pa mor hyfyw yw rhestr fer o safleoedd cyflogaeth strategol o ran cynllunio, datblygu a'r elfen economaidd sef y cam pwysig nesaf wrth lunio Rhaglen y gellir ei chyflawni.
Dywedodd Nick Bennett, Pennaeth Tîm Economaidd Savills, a leolir yng Nghaerdydd: 'Rydym yn hynod o falch i gael ein penodi i gefnogi'r bartneriaeth newydd a chyffrous yma sydd â'r potensial i drawsnewid yr economi'n rhanbarthol. Mae ein tîm aml-ddisgyblaethol yn ymrwymedig i sicrhau fod y cynigion o ran safleoedd strategol yng Nghanolbarth Cymru mor dda ag y gall fod gan gynorthwyo i ddatgloi twf swyddi a ffrwyno ar ddiboblogi o ran pobl ifanc."
Mae Bargen Dwf Canolbarth Cymru a osodir o fewn gweledigaeth ehangach Tyfu Canolbarth Cymru yn fuddsoddiad hirdymor gydag ymrwymiad ar y cyd o £110m o Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru, gan ddarparu arian cyfalaf i gefnogi seilwaith economaidd sylweddol. Bydd yr arian yma'n sbardun i ddenu buddsoddiad ehangach o'r sector preifat er mwyn hyrwyddo twf ar draws y rhanbarth dros y 10 - 15 mlynedd nesaf.
Bu i Gadeiryddion Bwrdd Tyfu Canolbarth Cymru sef y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion a'r Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd Cyngor Sir Powys, nodi ar y cyd fod: "Tyfu Canolbarth Cymru yn parhau i adeiladu ar waith a wnaed hyd yma gyda'r rhaglen eiddo a safleoedd er mwyn hyrwyddo a gweithredu datblygiadau allweddol ar draws y rhanbarth."
Bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r rhaglen yn uniongyrchol gydag arian refeniw ar y gwaith penodol yma i fwrw ymlaen â chlustnodi safleoedd a datblygu.
Nodwyd hefyd gan y Cadeiryddion: "Rydym yn edrych ymlaen i weithio gyda Savills a Llywodraeth Cymru wrth wireddu a ddatgloi cyfleoedd datblygu, ac ymateb yn bositif i alwadau'r farchnad a hyrwyddo buddsoddiad ehangach a diddordeb yn y rhanbarth."
Ychwanegodd Vaughan Gething Gweinidog yr Economi Llywodraeth Cymru: "Rwy'n falch iawn fod y darn pwysig yma o waith wedi cychwyn gyda chefnogaeth oddi wrth Lywodraeth Cymru sy'n galluogi ein partneriaid rhanbarthol i sicrhau arbenigedd technegol i ddatblygu rhaglen fanwl o ymyraethau perthnasol o ran eiddo.
"Rydym yn cydnabod fod yr angen i ddarparu portffolio o safleoedd ac eiddo ar draws Canolbarth Cymru yn angenrheidiol ar gyfer busnesau cynhenid a busnesau o'r tu allan fydd am fuddsoddi yn yr ardal gan hefyd fod yn hanfodol i alluogi twf economaidd. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio law yn llaw gyda'r ddau awdurdod lleol a'r sector preifat er mwyn cyflawni'r galw cynyddol a chefnogi'r gwaith o ddatblygu safleoedd cyflogaeth allweddol a darparu eiddo masnachol cynaliadwy a newydd fydd yn hyrwyddo Cymru fwy cyfartal, ffyniannus a gwyrdd."