Cyflwyniad
Mae Bargen Twf Canolbarth Cymru yn chwarae rhan allweddol o ran catalyddu adferiad a thwf economaidd yng Nghanolbarth Cymru, gyda'r nod o greu swyddi a chynyddu cynhyrchiant, yn ogystal â sicrhau gwelliannau cymdeithasol ac amgylcheddol ehangach.
Mae'r Fargen wedi'i gosod o fewn y Weledigaeth ehangach ar gyfer Tyfu Canolbarth Cymru, a bydd yn chwarae rhan allweddol, ochr yn ochr ag amryw o strategaethau a buddsoddiadau eraill o'r sector gyhoeddus a phreifat, i ddod â ffyniant i gymunedau a busnesau'r rhanbarth.
Ym mis Rhagfyr 2020, llofnododd y ddwy Lywodraeth ynghyd â Chynghorau Sir Ceredigion a Powys Benawdau Telerau Bargen Twf gwerth £110m. Ym mis Ionawr 2022, llofnodwyd Cytundeb Bargen Derfynol Bargen Twf Canolbarth Cymru gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU ac awdurdodau lleol y rhanbarth, Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Powys. Mae'r rhain yn nodi ymrwymiadau pob un o'r cyrff hyn i ddarparu Bargen i gefnogi economi Canolbarth Cymru.
Amcanion Buddsoddi
Datblygwyd yr amcanion buddsoddi dangosol canlynol* ar gyfer Bargen Twf Canolbarth Cymru drwy ddatblygu'r Achos Busnes Portffolio Strategol f1.0 sy'n nodi bod y Cynllun Twf, erbyn 2032, yn anelu at gyflawni:
- Cyfanswm y cyfalaf a fuddsoddir yn £280-400 miliwn
- 1,100 i 1,400 o swyddi ychwanegol net cyfwerth ag amser llawn
- £570-700 miliwn o Werth Ychwanegol Gros ychwanegol net
*ffigurau'n destun newid wrth i achosion busnes prosiectau a rhaglenni ddatblygu.
Mae'r ffilm isod yn tynnu sylw at y rhaglenni a'r prosiectau sy'n cael eu cefnogi gan y Fargen Twf (Cliciwch ar y ddelwedd i gael eich cyfeirio at sianel YouTube Tyfu Canolbarth Cymru):
Mae'r Fargen Twf yn cael ei datblygu ar ffurf Portffolio. Ym mis Medi 2021, cymeradwyodd Bwrdd Tyfu Canolbarth Cymru yr Achos Busnes Portffolio. Adolygwyd fframwaith y Portffolio ar gyfer y Fargen Twf a'r set gychwynnol o Raglenni a Phrosiectau gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.
Gosodwyd cwmpas y Portffolio o'r wyth maes blaenoriaeth twf strategol bras a amlinellwyd yn y Weledigaeth ar gyfer Tyfu Canolbarth Cymru:
Mae dull datblygu'r portffolio yn ystyried amrywiaeth eang o opsiynau a blaenoriaethau cyn cytuno i unrhyw raglen neu brosiect. Mae hefyd yn golygu bod y Portffolio'n cael ei adolygu'n rheolaidd - i sicrhau bod yr hyn sy'n cael ei gyflawni'n dal i fod yn berthnasol i anghenion economaidd y rhanbarth. Mae hyn yn golygu y bydd y Portffolio'n datblygu nifer o raglenni a phrosiectau sy'n cyd-fynd â'r Strategaeth ac sy'n sicrhau newid trawsnewidiol i economi Canolbarth Cymru.
Ar hyn o bryd, mae'r set o Raglenni a Phrosiectau sydd ar restr fer yr Achos Busnes Portffolio yn cwmpasu amrywiaeth o gynigion buddsoddi ar draws nifer o themâu - digidol, twristiaeth, amaethyddiaeth, bwyd a diod, ymchwil ac arloesi, a chefnogi menter.
Bydd astudiaethau dichonoldeb pellach ar feysydd y rhaglen yn cael eu cyhoeddi ar y wefan, er mwyn iddynt fod yn destun ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol yn ystod eu datblygiad, i benderfynu ar y camau nesaf. Er enghraifft, yr astudiaeth ddichonoldeb arloesol, sy'n archwilio potensial hydrogen ar gyfer Canolbarth Cymru yn y dyfodol.
Mae datblygiad y Portffolio'n cael ei lywodraethu gan nifer o grwpiau rhanddeiliaid - a amlinellir yn adran Llywodraethu'r wefan. Mae hyn yn cynnwys diweddariadau rheolaidd ac ymgysylltu ar gamau allweddol gyda grwpiau a diddordebau ehangach, i sicrhau bod y datblygiad yn cael ei wneud gyda mewnbwn a llywio cryf drwyddi draw. Bydd gwarantu llwyddiant y Fargen Twf yn ymdrech ar y cyd ar draws yr holl bartneriaid rhanbarthol, gyda mewnbwn cryf gan y sector preifat. Sefydlwyd Grŵp Cynghori Economaidd (EAG) newydd, sy'n cynnwys uwch arweinwyr busnes profiadol, i sicrhau bod cyngor ac arweiniad parhaus ar gael er mwyn gwneud y mwyaf o botensial y Fargen.
Oes cyfle i fod yn rhan o'r gwaith?
Er bod y Portffolio'n bwrw ymlaen â chyfres o gynigion cychwynnol ar hyn o bryd, efallai y bydd cyfle i ystyried cynigion eraill, felly byddem yn eich annog i drafod unrhyw gynigion gyda thîm Datblygu Economaidd eich Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf. Mae angen i gynigion ddangos eu bod yn cyd-fynd yn bendant â'r Strategaeth, a'r amcanion a'r meini prawf a nodir yn yr Achos Busnes Portffolio.
Nid cronfa grant mo'r Fargen Twf, mae'n rhaglen o arian cyfalaf sydd gofyn am waith sylweddol cyn y gwneir unrhyw benderfyniad ariannu. Mae'r dogfennau Strategaeth a Phortffolio yn gosod amcanion a meini prawf y rhanbarth ar gyfer datblygu cynigion am raglenni a phrosiectau, sy'n seiliedig ar resymeg a thystiolaeth sylfaenol glir.
Does dim cyllid capasiti/datblygu ar gael i ddatblygu cynigion prosiect. Oherwydd natur y gofynion ariannu, gallwn ond ystyried cynigion cryf sy'n cynnig allbynnau economaidd sylweddol sy'n cyd-fynd â'r Strategaeth a'r meini prawf a osodwyd yn y Portffolio.
Mae disgwyl i'r Fargen Twf redeg am gyfnod o sawl blwyddyn - a bydd yr economi, cymdeithas a busnesau'r rhanbarth yn newid yn y cyfnod hwnnw. Bydd y Portffolio'n cael ei adolygu'n rheolaidd, i sicrhau fod y gymysgedd gywir o raglenni a phrosiectau'n cael eu datblygu a'u cyflawni. Mae'r drws bob amser ar agor i gynigion da, ac mae'r dull Portffolio'n sicrhau bod yna fecanwaith ar gyfer nodi sianeli cyllid priodol ar gyfer syniadau sy'n dod i'r fei'n gyson.
Sefydlwyd Swyddfa Rheoli Portffolio (PMO) ranbarthol yn Haf 2021, i gyflenwi'r Fargen Twf. I gysylltu â'r tîm, ewch i'r adran 'Cwrdd â'r Tîm' ar y wefan hon.
Cyhoeddir rhagor o wybodaeth am y Fargen ar y wefan hon wrth iddi ddatblygu. Os oes gennych chi ddiddordeb ym mhenderfyniadau'r Fargen Twf, mae papurau Bwrdd Tyfu Canolbarth Cymru ar gael ar y wefan.