Toggle menu

Y Rhaglen Safleoedd ac Eiddo

Ffocws y Rhaglen Safleoedd ac Eiddo yw ysgogi buddsoddi mewn eiddo yn rhanbarth y canolbarth er mwyn cefnogi ein sectorau diwydiant bywiog ac amrywiol, gan sicrhau'r cyflenwad cywir o eiddo yn y lleoliadau cywir er mwyn diwallu anghenion o ran busnes.

Map o gyfleoedd safle yng Ngheredigion a Phowys

Cydnabyddir bod yna ddiffyg cyflenwad masnachol modern a thechnegol, ac yn hanesyddol cafwyd lefelau isel o ddatblygu sbeciannol er mwyn helpu i wella opsiynau o ran y farchnad yma. Mae sicrhau'r cyflenwad cywir o dir a safleoedd cyflogaeth yn y lleoliadau cywir er mwyn diwallu anghenion ein busnesau'n elfen hanfodol o wella cystadleurwydd yr economi leol.

Yn dilyn darn cychwynnol o waith a nododd fod angen datblygu safleoedd cyflogaeth ychwanegol ar draws y rhanbarth, mae gwaith pellach wedi'i gwblhau i bennu cwmpas Rhaglen Safleoedd ac Eiddo arfaethedig ar gyfer y Fargen Twf. Yn awr, mae Tyfu Canolbarth Cymru yn bwriadu datblygu achos busnes dros y buddsoddi hwn, gan gyflwyno prosiectau datblygu cynaliadwy a fydd yn helpu i ateb y galw a nodwyd yn y farchnad leol am safleoedd cyflogaeth.

Y Rhaglen Safleoedd ac Eiddo oedd ffocws ein llythyr newyddion ar gyfer mis Chwefror. Gallwch weld y llythyr newyddion a rhifynnau blaenorol ohono ar ein tudalen Newyddion a Digwyddiadau

Mae rhestr o safleoedd cyflogaeth strategol yn cael ei hystyried ar hyn o bryd o safbwynt eu hyfywedd o ran cynllunio a datblygu a'u hyfywedd economaidd. Gweler y map isod sy'n amlinellu cyfleoedd o ran safleoedd ar draws Ceredigion a Phowys.

Map o gyfleoedd safle yng Ngheredigion a Phowys

Rydym bob amser yn chwilio am fusnesau a buddsoddwyr posibl i weithio gyda ni er mwyn helpu i wireddu potensial llawn y Rhaglen. Os oes gennych ddiddordeb mewn trafod ymhellach unrhyw gyfleoedd i fuddsoddi neu os hoffech gymryd rhan mewn unrhyw ffordd, mae croeso i chi gysylltu â ni.

  • Bargen Dwf: tyfucanolbarthcymru@ceredigion.llyw.cymru
  • Ar gyfer pob ymholiad economaidd ac adfywio arall: Yng Ngheredigion, cysylltwch â Clic ar 01545 570 881/ clic@ceredigion.gov.uk. Yn Powys, cysylltwch 01597 827 657/ regeneration@powys.gov.uk

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu