05.03.2021 - Mae arweinwyr y rhanbarth wedi croesawu'r newyddion y bydd Llywodraeth y DU yn cyflymu ei chyllid ar gyfer Bargen Twf Canolbarth Cymru.
Mae arweinwyr y rhanbarth wedi croesawu'r newyddion y bydd Llywodraeth y DU yn cyflymu ei chyllid ar gyfer Bargen Twf Canolbarth Cymru.
Fis Rhagfyr diwethaf, cefnogodd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru y cytundeb twf 15 mlynedd gyda buddsoddiad o £55m yr un.
Dydd Mercher, 3 Mawrth, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydd yn cyflymu ei chyfran o'r cyllid ar gyfer Bargen Twf Canolbarth Cymru, a fydd yn golygu y bydd yn derbyn £5.5m y flwyddyn o 2021/22 am ddeng mlynedd yn hytrach na £3.66m y flwyddyn dros 15 mlynedd.
Dywedodd Arweinyddion Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn a Rosemarie Harris: "Rydym yn croesawu bod y cyllid gan Lywodraeth y DU ar gyfer Bargen Twf Canolbarth Cymru wedi ei gyflymu.
"Mae hyn nid yn unig yn ategu ymrwymiad Llywodraeth y DU i'r fargen dwf a'r rhanbarth ond bydd hefyd yn arwain at fuddsoddiad cyflymach unwaith y cytunir ar brosiectau.
"Mae hwn yn ddatblygiad cadarnhaol iawn ac edrychwn ymlaen at drafodaethau pellach gyda'n cydweithwyr yn y DU a Llywodraeth Cymru yn ogystal â phartneriaid allweddol yn ystod y misoedd i ddod wrth i ni ddechrau gweithio ar gyflawni'r fargen dwf hon a chefnogi economi'r rhanbarth."