Toggle menu

Arloesi i optimeiddio gridiau gwledig drwy gymunedau amaethyddol

Sut y gellir defnyddio arloesedd i reoli galwadau ar gridiau ynni gwledig, gan ddefnyddio'r rhyngweithio rhwng y sector amaeth a'r sector diwydiannau tir a chymunedau gwledig, gan ddarparu atebion i gyflymu datgarboneiddio?

Mae'r Cynllunio Ynni Ardal Leol (CYALl) ar gyfer Powys a Cheredigion yn tynnu sylw at yr angen am fuddsoddiad o £559 miliwn mewn seilwaith grid ar draws y rhanbarth, er mwyn hwyluso'r trosglwyddiad ynni i sero net. Gall rheoli'r galw ar gridiau gwledig mewn ffyrdd mwy arloesol yn helpu i leihau'r cost hwn, tra hefyd â'r potensial ar gyfer budd ehangach. Doedd peiriannau amaethyddol ac allyriadau o ddefnydd tir, sydd ill dau yn rhan sylweddol o allyriadau'r rhanbarth, ddim yn rhan o gwmpas y CYALl. Os caiff peiriannau amaethyddol eu trydaneiddio, bydd yn creu galw ychwanegol ar grid cyfyngedig.

Mae angen cynyddu capasiti is-orsafoedd ar draws pob parth yn y ddau awdurdod lleol, hyd at 51 MW ym Mhowys a 31 MW yng Ngheredigion, sy'n debygol o gymryd amser. Mae gan Systemau Ynni Lleol Clyfar (SLES)  y potensial i ddarparu ateb mwy cost-effeithiol a chynaliadwy i'r broblem hon. Yn ogystal, gall lleihau a gwneud y gorau o'r galw ar seilwaith y grid gwledig gynyddu'r cyflymder y gall prosiectau cynhyrchu ynni adnewyddadwy newydd gael eu datblygu a gwella sut mae'r gymuned leol yn eu gweld.

Mae gan Ganolbarth Gwledig Cymru gymuned amaethyddol gref ac yn sector economaidd pwysig gyda nifer fawr o weithwyr ar draws y rhanbarth. Credwn fod yr her hon yn rhoi cyfle i gyflenwyr arloesi i ddatblygu atebion newydd a deallus a all gefnogi datgarboneiddio'r diwydiant amaethyddol yn ogystal â'r rhanbarth ehangach. Gall yr economi wledig ehangach hefyd chwarae rhan yn y prosiect, er enghraifft datgarboneiddio cadwyni cyflenwi lleol; sicrhau mwy o fudd i'r ardal. 

Mae Tyfu Canolbarth Cymru wedi llwyddo i wneud cais i gronfa her Ymchwil ac Arloesi Systemau Cyfan mewn Datgarboneiddio (WSRID) Llywodraeth Cymru.

Mae gennym ddiddordeb mewn atebion arloesol sy'n ystyried dull systemau cyfan i ddeall y rôl y gallai amaethyddiaeth, neu ddiwydiant ar y tir, ei chwarae fel modd o alluogi datgarboneiddio ehangach ar draws cymunedau gwledig. Y nod yw nodi arloesedd a fydd yn helpu i leihau maint yr uwchraddio seilwaith grid sydd ei angen ar draws y rhanbarth, tra hefyd yn darparu buddion i'r cymunedau gwledig cyfagos, y sector amaethyddol yn ei gyfanrwydd a datblygu prosiectau cynhyrchu ynni adnewyddadwy.

Gall arloesi fod ar ffurf ond heb fod yn gyfyngedig i:

·       Systemau Ynni Lleol Clyfar (SLES) amaethyddol

·       defnyddio sgil-gynhyrchion amaethyddol i gynhyrchu tanwydd amgen

·       Cynlluniau ynni cymunedol

·       storio ynni (e.e. ymateb galw)

·       cynhyrchu ynni adnewyddadwy amaethyddol

·       neu unrhyw atebion arloesol eraill.

Themâu Her Penodol:

·       Amaethyddiaeth a diwydiannau tir

o   Peiriannau, adeiladau, tir

·       Cymuned

o   Tai, gwresogi, trafnidiaeth

·       Grid

o   Hyblygrwydd, Systemau Ynni Lleol Clyfar (SLES)

·       Cynhyrchu

o   Ynni cymunedol, adnewyddadwy

Amcanion dichonoldeb:

· Darparu tystiolaeth o allu i reoli/lleihau'r galw ar seilwaith grid

· Dangos y gallu i dyfu yn unol â'r anghenion, masnacheiddio ac ail-gyfeirio

· Nodwch brosiectau peilot a'u hyfywedd masnachol

·  Amlinellwch fuddion ychwanegol i'r gymuned a chyfeirio at y CYALl

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais i her Tyfu Canolbarth Cymru: Arloesi i optimeiddio gridiau gwledig drwy gymunedau amaethyddol dewch i'n weminar cyflenwr ar 29 Tachwedd am 2pm, e-bostiwch huw.williams2@ceredigion.gov.uk. Mae cyllideb o £100k i gaffael hyd at 4 astudiaeth dichonoldeb sy'n ateb yr her mewn ffordd arloesol. Mae'r ffenestr gaffael ar gyfer WSRID bellach ar agor. Cofrestrwch gydag eDendroCymru  yna defnyddiwch y ddolen ganlynol: https://etenderwales.bravosolution.co.uk/go/08701525019363BABE2C .Bydd y ffenestr gaffael ar agor o hanner nos ar 25/11/24 ac yn cau am hanner dydd ar yr 11/12/24. 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu