Cynnydd dros y Blynyddoedd Diwethaf
- Gwnaethpwyd cynnydd sylweddol o ran y seilwaith digidol ar draws Canolbarth Cymru, er bod heriau gwledig sylweddol yn bodoli o hyd.
- Mae prosiectau mawr, megis Cyflymu Cymru LlC, wedi dwyn band eang cyflym iawn ac a all drosglwyddo data ar gyfradd gigadid i filoedd o eiddo, gan wella cynhwysiant digidol. Mae sawl prosiect a ariannir gan arian cyhoeddus ac arian masnachol yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd er mwyn gwella'r ddarpariaeth bresennol.
Cymhariaeth band eang yng Nghanolbarth Cymru
· FTTP (Fiber to the Premises)
- Canolbarth Cymru (Dechrau'r Rhaglen - Ebr 22): 27.7%
- Canolbarth Cymru (Presennol - Meh 24): 50.6% (+22.9%)
- Cyfartaledd yng Nghymru: 66.7%
- Cyfartaledd yn y DU: 67%
- Eiddo sy'n weddill: 59,989
· Cyflym iawn (30Mbps+)
- Canolbarth Cymru (Dechrau'r Rhaglen - Ebr 22): 86.3%
- Canolbarth Cymru (Presennol - Meh 24): 89.7% (+3.4%)
- Cyfartaledd yng Nghymru: 97.3%
- Cyfartaledd yn y DU: 98%
- Eiddo sy'n weddill: 12,508
· Dan 10 Mbps (USO)
- Canolbarth Cymru (Presennol - Meh 24): 6.5%
- Cyfartaledd yng Nghymru: 1.6%
- Cyfartaledd yn y DU: 1.2%
- Eiddo sy'n weddill: 7,893
Cymhariaeth band eang yng Nghanolbarth Cymru
- Mae'r cwmpas 4G symudol wedi ehangu, yn arbennig trwy ymyriadau a ddarparwyd gan y rhaglen Rhwydwaith Gwledig a Rennir (SRN), ond nid yw ymyriadau lluosog wedi cael eu cwblhau eto. Bydd ardaloedd lle y gwelir cwmpas symudol a darpariaeth capasiti gwael yn parhau yn dilyn ymyrraeth SRN.
Effaith SRN a ragwelir yng Nghymru
Canolbarth a Gorllewin Cymru
- Cwmpas 4G gan y 4 MNO
- Cyn SRN: 51%
- Disgwyliedig ar ôl SRN: 78%
- Cwmpas 4G gan o leiaf 1 MNO
- Cyn SRN: 86%
- Disgwyliedig ar ôl SRN: 97%
Gogledd Cymru
- Cwmpas 4G gan y 4 MNO
- Cyn SRN: 63%
- Disgwyliedig ar ôl SRN: 83%
- Cwmpas 4G gan o leiaf 1 MNO
- Cyn SRN: 93%
- Disgwyliedig ar ôl SRN: 98%
Canol De Cymru
- Cwmpas 4G gan y 4 MNO
- Cyn SRN: 82%
- Disgwyliedig ar ôl SRN: 90%
- Cwmpas 4G gan o leiaf 1 MNO
- Cyn SRN: 98%
- Disgwyliedig ar ôl SRN: 99%
Dwyrain De Cymru
- Cwmpas 4G gan y 4 MNO
- Cyn SRN: 71%
- Disgwyliedig ar ôl SRN: 89%
- Cwmpas 4G gan o leiaf 1 MNO
- Cyn SRN: 95%
- Disgwyliedig ar ôl SRN: 99%
Gorllewin De Cymru
- Cwmpas 4G gan y 4 MNO
- Cyn SRN: 79%
- Disgwyliedig ar ôl SRN: 88%
- Cwmpas 4G gan o leiaf 1 MNO
- Cyn SRN: 97%
- Disgwyliedig ar ôl SRN: 99%
Effaith SRN a ragwelir yng Nghymru
Mae Cynghorau Sir Powys a Cheredigion yn croesawu ac yn datblygu technolegau newydd megis LoRaWAN i gynorthwyo gweithrediadau sefydliadol a busnes. O'i chymharu â'r sefyllfa mewn Awdurdodau Lleol eraill, gwelir nifer uchaf y pyrth LoRaWAN yn cael eu defnyddio yn y ddwy Sir.
Sir Pryth
- Powys 64
- Ceredigion 52
- Sir Gaerfyrddin 46
- Gwynedd 45
- Rhondda Cynon Taf 35
- Sir Benfro 34
- Enghraifft o ddefnydd pyrth LoRaWAN
Prif Heriau
- Darpariaeth Band Eang- Er gwaethaf y cynnydd, mae band eang cyflym iawn a gigadid ar ei hôl hi o hyd o'i gymharu ag ardaloedd eraill yng Nghymru a'r DU. Mae sawl prosiect a ariannir gan arian cyhoeddus a masnachol yn digwydd ar draws y rhanbarth.
- Darpariaeth Symudol- Mae'r cwmpas a'r capasiti mewn rhai ardaloedd yn parhau i fod yn gyfyngedig oherwydd y topograffeg. Mae prosiect a ariannir gan SPF wedi cychwyn i 'fapio' data yn annibynnol er mwyn cynorthwyo ymyrraeth a datblygiad prosiectau.
- Bwlch Sgiliau Digidol- Mae gofyn i'r rhanbarth, sydd â demograffeg sy'n tyfu ac sy'n heneiddio, gael cymorth wedi'i dargedu er mwyn addasu i dechnolegau digidol newydd a chael budd ganddynt. Bydd y dull gweithredu hwn yn helpu i bontio'r rhaniad digidol a meithrin twf economaidd.
- Cyllid- mae maint y broblem yn sylweddol ac yn dilyn mentrau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, megis SRN, Prosiect Gigadid, VHTR, yn ogystal â buddsoddiad gan TCC, mae'n debygol y bydd ardaloedd lle y mae'r cysylltiad yn wael, yn parhau.
Cyfleoedd
- Rhwydweithiau 5G - Mae asesiad o'r ddarpariaeth 5G yng Nghanolbarth Cymru yn mynd rhagddo ar hyn o bryd, sy'n ceisio gwella'r cysylltedd yn sylweddol. Mae'r fenter hon yn ddibynnol ar sicrhau partneriaid sy'n gallu ymestyn cwmpas y sbectrwm, ac mae hyn yn arbennig o bwysig yn ystod y cyfnod mwyaf poblogaidd i dwristiaid, pan fo straen sylweddol ar y lled band sydd ar gael.
- Technolegau sy'n Datblygu - Gall defnyddio LoRaWAN, y Rhyngrwyd Pethau (IoT) a Deallusrwydd Artiffisial (AI) drawsnewid sectorau allweddol fel amaethyddiaeth.
- Datrysiadau band eang amgen - Ymgysylltu â darparwyr i ddefnyddio datrysiadau band eang amgen er mwyn goresgyn problemau oherwydd topograffeg a phoblogaeth brin.
- Cydweithio ar draws Ffiniau - Gall partneriaethau rhwng cymunedau ger y ffin rhwng Powys a Cheredigion fanteisio i'r eithaf ar effaith prosiectau cysylltedd. h.y. ANW, SBCD, Partneriaeth Afon Hafren.
- Mentrau Ffyniant Bro - Gall Tyfu Canolbarth Cymru a mentrau cysylltiedig ddwyn cyllid strategol a ffocws i'r rhanbarth.
- Cyfleoedd Profi -Prosiectau peilot a gynhelir yng Nghanolbarth Cymru i brofi dilysrwydd graddfa h.y. treialon band eang lloeren DSIT.
Rhaglen Ddigidol TCC hyd yn hyn
- £10.6m wedi'i 'glustnodi' er mwyn darparu'r ffrwd waith ddigidol. Ei nod yw cyflymu a chyd-fynd â defnydd arall a wneir o seilwaith digidol a ariannir gan arian cyhoeddus a masnachol. Darpariaeth band eang a symudol yn bennaf.
Amcanion y Rhaglen
- Cynyddu cyfraniad buddsoddiad cyhoeddus/preifat a wneir eisoes mewn seilwaith digidol gymaint â £100m er mwyn darparu RoI o £180m erbyn 2030 (denu buddsoddiad, sicrhau elw economaidd).
- Cyflawni targed o 80% ar ffurf cwmpas data symudol 4G yn yr awyr agored gan yr holl weithredwyr erbyn diwedd 2026 (Capasiti, Cwmpas a chyflymu). Mae hyn yn cynnwys cwmpas 4G o 1800MHz o leiaf, ac isafswm o 5G band canol.
- Cyflawni targed o 60% o ran cwmpas ffeibr llawn erbyn diwedd 2026 (Cwmpas a chyflymu).
- Cyflawni targed o 98% o ran cwmpas cyflym iawn erbyn diwedd 2026 (Cwmpas a chyflymu).
Gwaith presennol a gwblhawyd
- Ymgysylltu parhaus gyda sawl gweithredwr band eang a symudol, gan gynorthwyo defnydd a ariannir gan arian cyhoeddus a masnachol, gyda sawl miliwn o bunnoedd yn cael eu buddsoddi yn y Rhanbarth.
- Platfform mapio data symudol cynhwysfawr, trwy gyfrwng cyllid SPF, i gynorthwyo wrth adnabod ardaloedd ymyrraeth a chynorthwyo gweithgarwch gwneud penderfyniadau am flaenoriaethu, gyda'r cyfleuster archwilio cwmpas annibynnol ac sydd ar gael i'r cyhoedd cyntaf o'i fath.
- Cymeradwyo Cytundebau Mynediad Agored (yng Ngheredigion ac yn symud yn eu blaen ym Mhowys), fel yr argymhellwyd gan DSIT i ddarparu'r defnydd o Asedau'r Cyngor gan ddarparwyr rhwydwaith er mwyn gwella rhwydweithiau diwifr band eang a symudol.
- Gweithgarwch ymgysylltu â busnes trwy gyfrwng Arolwg Cysylltedd Digidol Busnes TCC. 91 ymateb gyda dirnadaeth ranbarthol benodol o anghenion cysylltedd digidol ar draws busnesau Ceredigion a Phowys.
- Nodi sawl prosiect, ac mae datblygiad achosion busnes priodol yn mynd rhagddynt.
Cynlluniau ar gyfer y Dyfodol
- Seilwaith Symudol- Gwella capasiti a chwmpas y rhwydwaith symudol, gan ddefnyddio celloedd bychain trwy ddefnyddio Cytundebau Mynediad agored (OAA) wedi'u hadlewyrchu ar draws y Rhanbarth yng Ngheredigion ac ym Mhowys.
- Band eang- Ymestyn band eang a ffeibr all drosglwyddo data ar gyfradd gigadid i eiddo ychwanegol fel rhan o fenter caffael Mat C DIST ac ar gyfer y rhai heb eu cynnwys mewn defnydd masnachol arall.
- Sbarduno LoRaWAN/ IOT- Cynyddu rhwydwaith LoRaWAN presennol y Rhanbarth er mwyn sicrhau cwmpas ym mhob tref a safle cyflogaeth strategol, gan ymgysylltu â busnesau i fanteisio ar y rhwydwaith mewn ffordd effeithiol.
- Cysylltedd FTTP Parciau Busnes- Sicrhau bod cymaint o eiddo sy'n weddill ag y bo modd yn y parciau busnes yn cael eu cysylltu â darpariaeth FTTP, er mwyn sicrhau gweithrediadau busnes effeithiol, i ddenu busnesau newydd a chynorthwyo twf busnesau.
- Canolfannau Digidol- Sefydlu rhwydwaith o ganolfannau 'wedi'u galluogi yn ddigidol' ar draws Powys a Cheredigion, a fydd yn cynnig mwy o gysylltedd digidol i breswylwyr a busnesau, gan gynorthwyo mwy o fynediad i wasanaethau, sgiliau digidol a deori busnesau.
Mentrau Digidol Cyngor Sir Ceredigion
Cysylltedd Cymunedol Gwledig
Partneriaeth gyda Voneus
- Darparwr amgen mynediad diwifr gigadid a ffeibr llawn.
- Dwyn band eang ffeibr i 5,000 o eiddo gwledig.
- Sicrhau cydfuddiannu Cytundeb Mynediad Agored (OAA) a lofnodwyd gyda Chyngor Sir Ceredigion ym mis Mai 2024.
Cymorth i Openreach
Darparu tri phrosiect masnachol a gynhelir gyda chymorth Talebau:
- Tregaron: posibilrwydd o 778 eiddo / posibilrwydd o £994,000 ar ffurf Cyllid Talebau - Yn cael ei Adeiladu ar hyn o bryd.
- Rhydlewis: posibilrwydd o 762 eiddo / posibilrwydd o £994,000 ar ffurf Cyllid Talebau - Cyflawnwyd y Targed Cyllido / Bydd y gwaith Adeiladu yn cychwyn.
- Maesycrugiau: posibilrwydd o 246 eiddo / posibilrwydd o £333,000 ar ffurf Cyllid Talebau - Y prosiect yn aros am y lansiad cyhoeddus ar hyn o bryd.
Uwchraddio Mastiau Symudol
- Cynyddu'r cwmpas symudol yng ngogledd Ceredigion.
- Caiff ei gynorthwyo gan y Rhwydwaith Gwledig a Rennir (SRN).
- Darparwyd tri mast ac maent yn weithredol; mae wyth pellach yn cael eu hadeiladu, a disgwylir iddynt gael eu cwblhau erbyn diwedd 2025.
Cymorth Digidol Cymunedol
Parciau Busnes
- Darparu cymorth trwy fenter "Atgyfnerthu Digidol Ceredigion a Phowys ".
- Ceisiwyd cyllid gan bartneriaeth Rhanbarthol Tyfu Canolbarth Cymru.
- Nod: Cau bylchau ffeibr llawn o ran y cwmpas, sicrhau bod yr holl Barciau Busnes dynodedig yn gallu cael mynediad i Fand Eang ffeibr llawn all drosglwyddo data ar gyfradd gigadid (rydym yn aros am y costau dangosol).
Rhwydwaith LoRaWAN
- Mae gan Geredigion 52 o byrth wedi'u lleoli mewn mannau strategol.
- Dim ond Powys yng Nghymru sydd mewn sefyllfa well o ran cwmpas.
- Mae'n defnyddio dulliau arloesol, megis lorïau sbwriel, i brofi effeithiolrwydd y rhwydwaith.
- Monitro pyrth yn barhaus er mwyn cynnal cysylltedd optimatidd.
- Mae'n cynorthwyo datblygiad economaidd a thechnolegol.
Mynediad i wasanaeth Wi-Fi mewn Trefi
- Gyda chymorth cyllid SPF, mae saith tref bellach yn cynnig mynediad Wi-Fi i breswylwyr a busnesau.
- Ariannwyd hwn yn gyfan gwbl neu'n rhannol gan gyfraniadau Cynghorau Cymuned.
- 48 porth sy'n cael eu cynorthwyo gan lwybryddion Meraki.
- Cysylltedd gwell yn Aberystwyth, Llanbedr Pont Steffan, Ceinewydd, Aberaeron, Aberteifi, Llandysul, a Thregaron.
- Lleoli pyrth mewn ffordd strategol ar gyfer cwmpas Wi-Fi cadarn.
- Mae'n hyrwyddo cynhwysiant digidol ac yn cefnogi gweithgareddau economaidd.
- Mae'n sicrhau mynediad dibynadwy i'r rhyngrwyd mewn mannau cyhoeddus a rhanbarthau busnes.
- Mae'n amlygu ymrwymiad Ceredigion i ddefnyddio technoleg ar gyfer datblygiad economaidd a chymunedol.
Cyflwyno SENSEi
- Dan arweiniad Smart Busnes [sic], mae'r trefi yr ymgysylltwyd â nhw bellach yn paratoi i wella effeithiolrwydd eu cwmpas trwy gyflwyno troshaen SENSEi. Bydd SENSEi, technoleg a ysgogir gan AI, yn cynnig gallu dadansoddi data estynedig a gallu dysgu gan beiriannau er mwyn optimeiddio'r rhwydwaith Wi-Fi. Trwy integreiddio gwaith dadansoddi rhagfynegol a monitro amser real, bydd SENSEi yn sicrhau mynediad cadarn, dibynadwy ac effeithlon i'r rhyngrwyd. Bydd hyn yn hyrwyddo cynhwysiant digidol ymhellach, gan gynorthwyo busnesau lleol a meithrin twf economaidd yn y trefi clyfar hyn.
Mentrau Digidol Cyngor Sir Powys
Cysylltedd Cymunedol Gwledig
Cronfa Band Eang Lleol
Dyfarnu contract i Openreach trwy BT Wholesale i gysylltu hyd at 165 eiddo Anodd i'w cyrraedd ym Mhowys ynghyd â chysylltiadau damweiniol ychwanegol - bydd y gwaith yn cychwyn ar unwaith a chaiff ei gwblhau yn 2025. Bydd y prosiect yn defnyddio methodoleg amgen er mwyn mynd i'r afael â chysylltu eiddo anodd i'w cyrraedd, a bydd ganddo y potensial i ddangos fforddiadwyedd ar gyfer modelau cyllido amgen.
Partneriaeth gyda Voneus
- Darparwr amgen mynediad diwifr ffeibr llawn a gigadid.
- Yn dwyn band eang ffeibr i 12,000 o eiddo gwledig.
- Ysgogi Cytundeb Mynediad Agored (OAA) cydfuddiannol wedi'i lofnodi â Chyngor Sir Powys mewn trafodaethau gyda HOD a chyfreithiol ar gyfer y gallu i ddefnyddio Dodrefn Stryd Powys i gynnal dyfeisiau symudol a ffeibr er mwyn gwella cysylltedd.
Cymorth i Openreach
Darparu 7 (Saith) o brosiectau masnachol gyda chymorth Talebau:
- Llanbrynmair: posibilrwydd o 223 Eiddo / posibilrwydd o £423,000 ar ffurf Cyllid Talebau - Yn cael ei Adeiladu ar hyn o bryd.
- Ceri: posibilrwydd o 514 Eiddo / posibilrwydd o £738,000 ar ffurf Cyllid Talebau - Yn cael ei Adeiladu ar hyn o bryd.
- Maesyfed: posibilrwydd o 239 Eiddo / posibilrwydd o £342,000 ar ffurf Cyllid Talebau - Yn cael ei Adeiladu ar hyn o bryd.
- Llanwrtyd: posibilrwydd o 216 Eiddo / posibilrwydd o £630 ar ffurf Cyllid Talebau - Yn cael ei Adeiladu ar hyn o bryd.
- Llanrhaeadr: posibilrwydd o 380 Eiddo / posibilrwydd o £580,000 ar ffurf Cyllid Talebau - Yn cael ei Adeiladu ar hyn o bryd.
- Aberriw: posibilrwydd o 336 Eiddo / posibilrwydd o £621,000 ar ffurf Cyllid Talebau - Yn cael ei Adeiladu ar hyn o bryd.
- Tregynon: posibilrwydd o 411 Eiddo / posibilrwydd o £612,000 ar ffurf Cyllid Talebau - Ar fin cyflawni'r Targed Cyllid / Y gwaith Adeiladu ar fin Cychwyn.
Adrodd symudol TCC Streetwave
Mae TCC wedi gosod synwyryddion adrodd symudol ar 12 o Lorïau Sbwriel Powys sy'n teithio ar hyd a lled yr awdurdod, ac mae'r rhain yn adrodd yn ôl i ddangosfwrdd er mwyn cynnal archwiliad dwfn o broblemau cysylltedd symudol ym Mhowys - bydd y data hwn yn hynod o werthfawr wrth siarad â gweithredwyr Symudol gyda BT am y cam arfaethedig o stopio gwerthu i linellau copr a rhoi'r gorau i linellau ffôn PSTN traddodiadol. Bydd yn golygu y bydd modd adrodd canfyddiadau annibynnol i OFCOM mewn ardaloedd a dargedir lle y gwelir pryderon gan breswylwyr.
Mynediad i wasanaeth Wi-Fi mewn Canol Trefi
Gyda chymorth Trawsnewid Trefi a chyllid SPF, mae gennym 7 Canol Tref ym Mhowys sy'n cynnal Wi-Fi Am Ddim ac mae data am nifer yr ymwelwyr sy'n cael ei bweru gan Patrwm ar gael fel ffynhonnell agored i fusnesau, y 3ydd sector a'r cyhoedd. Rydym yn bwriadu cyflwyno hyn mewn 3 tref ychwanegol yn ystod tranche nesaf Cyllid SPF
Datblygu cymorth Digidol ar gyfer y Cymunedau Lleol
Gyda chymorth cyllid SPF, dyfarnodd Powys raglen ddigidol i Owens Consultancy sy'n darparu cynlluniau Bro Digidol i 3 Tref ym Mhowys, ynghyd â gweithio gyda busnesau a phreswylwyr ym maes dysgu a hyfforddi Technoleg sylfaenol. Mae hefyd yn cynnig y cyfleoedd i breswylwyr gychwyn ar bwnc TG mwy manwl er mwyn sicrhau cymwysterau. Cyflawnwyd hyn yn Ystradgynlais, Llanfair Caereinion a Chrucywel.
https://powysdigitaltowns.info/index.php